Mae llawer o fudiadau yng Nghymru wedi sefydlu cysylltiadau ffurfiol gyda mudiadau tebyg yn Lesoto, De Affrica: capeli, ysgolion, mudiadau ieuenctid a chanolfannau meddygol. Mae Lesoto tua’r un faint a Chymru gydag arwynebedd o 30,000 km sgwâr, ond yn llai poblog, gyda dim ond 2,300,000 o drigolion.
Lesoto yw’r unig wlad yn y byd gyda’i holl arwynebedd dros 1000 metr. Y pwynt uchaf yw Thabana-Ntlenyana (3,482m) ar Grib Drakensberg, sy’n ffurfio’r ffin ddwyreiniol gyda Gweriniaeth De Affrica. Mae copaon eraill dros 3,000 m yn cynnwys Mont-aux-Sources (3,285m), Cleft Peak (3,261m), Makheka (3,461m), Seqoqo (3,393m) a Makoaneng (3,416m) ym mynyddoedd Drakensberg a Thaba-Moes (3,021m) ar y Grib Ganolog. Mae rhai o’r mynyddoedd yn ymddangos yn heriol ar Google Earth. A oes unrhyw gysylltiadau mynydda rhwng Cymru a Lesoto? Oes rhywun yn cynllunio taith i Lesoto yn y dyfodol agos a fyddai’n medru creu neu gryfhau cysylltiadau?
Rwyf yn derbyn llawer o lythyrau na ofynnwyd amdanynt yn rhinwedd fy swydd fel ysgrifennydd Clwb Mynydda Cymru. Er nad yw Plas y Brenin yn fy nghynnwys ar eu rhestr lythyru (efallai nad ydynt angen hyrwyddo eu gweithgareddau i siaradwyr Cymraeg?), mae Glenmore Lodge yn yr Alban yn gwneud hynny. Mae Glenmore Lodge yn 60 oed eleni, ond o ddarllen eu prosbectws ni cheir fawr o ymdeimlad o hunaniaeth Albanaidd, hyd yn oed o’r Pairc Naiseanta a’Mhonaidh Ruaidh newydd [Parc Cenedlaethol Cairngorm] a’r tarddiad Gaidhlig i bron bob enw lleol a nodwedd ddaearyddol. Y mae, wedi’r cwbl, yn ardal hanesyddol y Gaidhlig “Gaelteachd” [ardal Gaeleg ei hiaith] - gydag Ysgol Gynradd Gaeleg yn Newtonmore gerllaw a’r Aeleg yn cael ei ddysgu yn Ysgol Uwchradd Kinguisse. Hyd y gwn i, mae’r unig siaradwr Gaeleg sy’n hyfforddi ar gyfer gyrfa mewn gweithgareddau awyr agored, yn cael cefnogaeth drwy ganolfan ‘Outward Bound’ Locheilside yn Lochaber.
Un arwydd fod y gaeaf yn dod i ben yw Gwyl Ffilmiau Llanberis - LLAMFF. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, hwn fu’r penwythnos gorau ar gyfer gweithgareddau rhew ac eira - rheswm arall i fynychu’r wyl. Mae Gwyl 2008 yn ymestyn o 29 Chwefror i 2 Mawrth. Gan fod dydd Gwyl Ddewi yng nghanol yr wyl a chan fod 70% o’r boblogaeth leol yn siarad Cymraeg, mae’n her i’r trefnwyr wneud yr wyl nesaf yr un mwyaf perthnasol erioed i dir, iaith a diwylliant Cymru. ■
« Back
This article has been read
1510
times
TAGS
Click on the tags to explore more