Nid oes rhaid i chi ymddiddori ym mynyddoedd Cymru am gyfnod hir cyn darganfod rhywbeth sy’n ymwneud â hanes Celtaidd-Rhufeinig. Mae llawer o’r ffyrdd Rhufeinig a’r caerau bryniog i’w gweld ar lechweddau isaf yr ucheldiroedd. Y llwythau cyntefig, fodd bynnag, oedd yn byw ac yn ffermio ar y mannau uchaf a hwy oedd y cyntaf i archwilio’r copaon - petai ond i gladdu eu tywysogion.
Yn 61AD safai Suetonius, llywodraethwr newydd Prydain, ar lannau’r Fenai yn pendroni sut y gallai gludo’i filwyr ar draws y Fenai, a thrwy hynny, gwblhau ei goncwest yn y gorllewin. Ar y lan gyferbyn gallai weld y gelyn. Fel y dywed Tacitus wrthym ‘..roedd gwyr arfog yn cael eu cymell i orffwylltra gan dderwyddon oedd yn cyhoeddi melltith a gwragedd hirwalltog, wylofus wedi’u gorchuddio mewn du fel ellyllon.’Roedd yr olygfa yn ddigon i wneud i’r llengfilwr mwyaf profiadol grynu – pe’i daliwyd yn fyw, fe derfynai’i oes yn aberth dynol ar allorau’r derwyddon. Problem Suetonius oedd lle i groesi – o’r man culaf tua’r gorllewin roedd wedi’i wynebu gan gerrynt cyflym, dyfroedd dyfn a choed yn ymestyn hyd at y lan. Roedd angen gwybodaeth am y gwastadedd dwr bas ar yr ochr ddwyreiniol - byddai golwg o’r tir uchel tu cefn i Fangor - Moel Wynion - wedi bod yn ddelfrydol.
Yn adran Rufeinig eang, Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd ceir cleddyf Rhufeinig a ddarganfuwyd ar Gopa Carnedd Llywelyn yn 1933. A gafodd y milwr ei demtio i grwydro i fyny’r bryn i weld beth oedd dros yr ael? Ai fo oedd y cyntaf i ddringo mynydd yng Nghymru am yr un rheswm ag y gwna y mwyafrif ohonom?
Yn yr amgueddfeydd y ceir yr ateb i’r fath gwestiynau’n aml iawn. Er hynny, mae’r portread o fynydda yng Nghymru a chyfraniad byd-eang Cymru i fynydda yn ddiffygiol. Yn dilyn yr etholiad ym mis Mai, mae gennym lywodraeth newydd yng Nghymru – oni all y BMC gyfiawnhau achos ar gyfer y fath brosiect?
Mae’r gost barhaus o gynnal y fath amgueddfeydd yn uchel. Gall cost cyfalaf gynyddu’n ddirfawr. Mae angen meddwl ymhellach felly. Oni ellir sefydlu cyfres o orielau mewn lleoedd addas ledled Cymru? Byddai cael yr un math o adeilad a chynllun, yr un math o gyflwyniad dwyieithog (neu amlieithog?) ynghyd ag arweinlyfr cynhwysfawr yn cyplysu’r cyfan fel y bydd amgueddfa fynydda Cymru yn datblygu tros gyfnod o amser. Mae rhai lleoliadau a thestunau’n amlwg – byddai hanes Suetonius a chleddyf Carnedd Llywelyn yn Segontium yng Nghaernarfon, byddai hanes y blynyddoedd arloesol ac Everest ym Mhen y Gwryd, cyfraniad hanner can mlynedd Plas y Brenin, chwilio o’r awyr ac achub yn Ninas Dinlle a chyfraniad y mudiad ‘Outward Bound’ yn Aberdyfi. Yna, beth am roi sylw i ddringo creigiau’r arfordir yn Sir Benfro yn rhywle, cyfraniad yr awdurdodau addysg yng Nghanolfan Storey Arms a chanolbwyntio ar dechnoleg dillad ac esgidiau mynydda mewn dwy allfa adwerthu?
Pam na wnewch chi lobiïo’ch Aelod Cynulliad lleol neu ranbarthol? Gadewch i ni fynd â’r maen i’r wal!
« Back
This article has been read
1512
times
TAGS
Click on the tags to explore more