Mae Rhiconich a Kinlochbervie yn bentrefi yn Swydd Sutherland, yng nghornel gogledd-orllewinol uchaf yr Alban. Yn ddiweddar fe gododd ddadl yno ynglwn ag union uchder y mynydd lleol - Foinaven.
Craidd y ddadl oedd – a oedd copa Foinaven yn cyrraedd y 3,000 troedfedd hudol hwnnw fyddai’n ei osod yn nosbarth dyrchafedig mynyddoedd Munro? Roedd rhai’n gobeithio ei fod o, gan feddwl y byddai hynny o fudd i dwristiaeth a’r economi leol. Roedd rhai eraill yn gobeithio nad oedd o ddim, gan ofni efallai cael eu mathru dan draed heidiau o gipwyr copaon Munro.
Er mwyn torri’r ddadl, unwaith ac am byth, fe wahoddodd Cymdeithas Munro gwmni o syrfewyr proffesiynol o Falkirk i fesur uchder Foinaven. Ac ym mis Mai fe ddaeth dau syrfëwr ynghyd â deg aelod o Gymdeithas Munro i fesur uchder copa Ganu Mor y mynydd. Defnyddiwyd y dechnoleg lloeren ddiweddaraf ac fe gymrodd y gwaith mwy na 13 awr. Y canlyniad? 2,988 troedfedd. Roedd Foinaven 12 troedfedd yn brin o’r nod. Er gwaetha’r siom mae’n bosib, serch hynny, bod pawb ar ei ennill yn y pen draw. Hynny yw, mae’n wsiwr bod y mesurwyr wedi gorffen y dydd mewn modd priodol dros ddiod neu ddau mewn llety lleol, ac felly wedi dod â pheth budd i’r diwydiant twristiaeth lleol. Ac mae hi’n eithaf sicr hefyd na fydd yna ribidirês o gipwyr copaon Munro’n dilyn ar eu sodlau.
Yn y cyfamser yng ngogledd-orllewin Cymru roedd Pwyllgor Iaith Gymraeg Cyngor Gwynedd yn pryderu ynghylch y defnydd o enwau Saesneg yn unig ar gyfer creigiau a dringfeydd mewn arweinlyfrau dringo. Y cwestiwn amlwg oedd - oes yna enwau Cymraeg ar gyfer y creigiau a’r dringfeydd hynny? Yn sicr mae yna enwau ar gyfer nifer fawr o greigiau, y rhai hynny sy’n nodedig ynddyn nhw eu hunain, neu’r rhai sydd angen eu henwi oherwydd eu bod o bwys i fugeiliaid. Yn y Glyderau er enghraifft, fe gafodd Twll Du ei enw rhai oesoedd cyn i rywun ei gymharu â Chegin y Diafol.
Er mwyn sicrhau bod yr enwau Cymraeg a’r enwau Saesneg ar gyfer nodweddion naturiol unrhyw leoliad yn cael eu rhoi ar gof a chadw, fe hoffwn i wybod beth ydyn nhw, ac mi fyddwn i’n ddiolchgar iawn am eich cymorth yn y gwaith o’u casglu. Byddwn yn tybied bod sawl dringfa unigol ag enw Saesneg yn unig – mater o’r cyntaf i fyny’n enwi. Ac eto, mae’n ddigon posib bod dringwyr Cymraeg eu hiaith wedi llunio enw Cymraeg ar eu cyfer oddeutu’r un pryd, neu wedyn hyd yn oed. Oes yna ddringwyr yn eich mysg sydd ag enwau, neu sy’n gwybod enwau gwreiddiol Cymraeg (nid cyfieithiadau) am ddringfeydd megis dringfa’r Central Buttress, y Grooved Arete, Pinnacle Rib, Thomson’s Chimney neu Knight’s Move Slab, er enghraifft? Os oes, gadewch i mi wybod ar ymholiadau@clwbmynyddacymru.com .
Yn dilyn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai, mae gennym ni erbyn hyn llywodraeth glymblaid fwyafrifol yng Nghymru. Fe gollodd Alun Pugh, y Gweinidog gyda chyfrifoldeb am Fynyddoedd, ei sedd ac yn ei le fe benodwyd Carwyn Jones. Mae ei bortffolio’n cynnwys mynydda. Beth felly ddylai’r BMC weithio i’w gael yng Nghymru? Rheoli cerbydau modur yn y mynyddoedd? Cwn ar dennyn ymhob man yn y mynyddoedd? Dilyn deddfwriaeth Rhyddid Mynediad gyda mesurau sy’n agor tir agored i bobl heb fod neb yn dringo dros y waliau? Gyrrwch eich sylwadau at y BMC Cymru newydd ei wedd.
« Back
This article has been read
1654
times
TAGS
Click on the tags to explore more