Yn haeddiannol ddigon, rhoddwyd sylw eang yn y papurau tabloid a’r papurau trymion i farwolaeth Syr Edmund Hilary. Yn sgîl hyn, deuthum yn ymwybodol o ddau beth pwysig.
Yn y lle cyntaf, mae’n amlwg fod y tunelli o sbwriel a deflir gan fynyddwyr yn peri gofid i Edmund Hillary. Nid problem yr Himalaia yn unig yw hyn. Fe welir yr un difrod yn ardal y Peak, ar weunydd Ardal y Llynnoedd ac ar gribau mawreddog Eryri. Nid mannau picnic ar gyfer y cerddwyr achlysurol yw’r lleoedd hyn ond ardaloedd antur ar gyfer mynyddwyr selog a ddylai wybod yn well. Pam, felly, na rowch chi hen fag plastig yn eich sach y tro nesaf yr ewch allan ar y mynydd ac ewch ati i gasglu sbwriel ar derfyn eich taith?
Mae’r rhan fwyaf o’r ysgrifau coffâd yn cyfeirio at bwysigrwydd Gwesty Pen y Gwryd yn y gwaith rhagbarataol ar gyfer dringo Mynyddoedd yr Himalaia. Ond sut, mewn gwirionedd, fedrwn ni ddathlu treftadaeth Eryri fel crud mynydda tra mae cau Amgueddfa Genedlaethol Mynydda yn Rheged ar y gorwel?
Tra’n teithio ar Eurostar i weld Cymru yn colli yn erbyn Fiji yng Nghystadleuaeth Cwpan y Byd, fe ddarllenais erthygl yn Y Times yn coffáu mynyddwr arall – René Desmaison a fu farw yn 77 mlwydd oed. Roedd y mynyddwr Ffrengig dadleuol hwn yn enwog am herio marwolaeth ar ddringfeydd anodd ac o dan amodau enbyd. Desmaison oedd y cyntaf i ddringo 114 o ddringfeydd yn yr Alpau, Mynyddoedd yr Himalaia a’r Andes. Roedd hefyd yn dywysydd, yn awdur chwe llyfr ac yn wneuthurwr ffilmiau. Yn gymeriad dadleuol yn aml, fe’i gwaharddwyd o gymdeithas aruchel ‘Compaigne des Guides de Chamonix’ am ei anufudd-dod.
Yn yr ail le, fe sylweddolias nad yw’r naill na’r llall o bapurau dyddiol Cymru yn neilltuo colofnau o goffâd. O gofio’r lleihâd a fu yn nifer y newyddiadurwyr, a geir dathliad teilwng o gyflawniadau oes unrhyw un o’n mynyddwyr mawr?
Ar hyn o bryd, mae gennym fersiwn Gymraeg o’r daflen newyddion ar gyfer yr ardal – diolch i flaengarwch Cadeirydd CMP Cymru a’r cymorth a geir gan bedwar cyfieithydd gwirfoddol. Pa flaenoriaethau ddylid eu cael ar gyfer defnyddio’r iaith Gymraeg o fewn CMP Cymru? O gofio bod apwyntio swyddog datblygu’r CMP yn ôl ar yr agenda, beth ddylid eu hystyried fel blaenoriaethau?
Tra rydym yn ymhyfrydu yng nghampau mawrion y gorffennol, mae gan y CMP gyfle i gofleidio math newydd o fynydda cynhwysol gyda dimensiwn gwirioneddol Gymreig. Gadewch i ni sicrhau bod hyn yn digwydd!
« Back
This article has been read
1483
times
TAGS
Click on the tags to explore more