Mae’r Ddraig Goch yn chwythu tân unwaith eto.
Ond beth am y BMC yng Nghymru – pa fath o gyflwr sydd arnon ni? Yn dechnegol, corff sy’n cynrychioli dringwyr, cerddwyr y bryniau a mynyddwyr yng Nghymru a Lloegr yw’r BMC – dyna sut y bu hi ers sefydlu’r BMC yn 1944.
Mae’r Ddraig Goch yn chwythu tân unwaith eto – dydy’r Cymry ddim wedi gallu sefyll mor falch ers oes aur rygbi Cymru yn y 70au, dyddiau Gareth Edwards, JPR Williams a Phil Bennett. Mae’r dyddiau da yn eu hôl, diolch i’r grasfa dros y Saeson a’r Gamp Lawn gyntaf mewn rygbi er 1978 – heb sôn am yr amodau dringo gaeaf gorau yn Eryri ers blynyddoedd lawer! Law yn llaw â hyn, mae ein hunaniaeth wleidyddol yng Nghymru’n cryfhau ac mae gennym Weinidog dros Ddiwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon yn y Cynulliad, Alun Pugh, sy’n fynyddwr brwd ac yn awyddus i ddefnyddio bryniau a mynyddoedd Cymru i hyrwyddo twf economaidd ac iechyd a ffitrwydd y boblogaeth.
Yn 1970, sefydlodd yr Alban ei mudiad ei hun – yr MCofS, ond mae Cymru wedi aros dan ambarél y BMC. Dair blynedd yn ôl, anfonodd y BMC holiadur at holl aelodau’r BMC yng Nghymru i fesur faint o gefnogaeth oedd i sefydlu Cyngor Mynydda newydd yng Nghymru. Llai na 5% ymatebodd – dim ond 85 o bobl oedd yn cefnogi’r syniad.
Ers hynny, mae pethau wedi symud yn eu blaenau. Daeth y BMC yn agos at benodi Swyddog Cenedlaethol i Gymru yn ôl yn 2002, ond tua’r un adeg, daeth problemau ariannol a threfniadaethol i wthio’r BMC oddi ar ei echel. Heddiw, mae gennym gyfle newydd i roi hwb i bethau. Mae’r ymateb gan Gyngor Chwaraeon Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru’n dawel gefnogol – gallai cefnogaeth ariannol fod ar gael yn 2006 ac mae’r BMC wrthi’n frwd yn archwilio’r posibiliadau. Yn y cyfamser, rydym yn bwrw ymlaen â’n gwaith yng Nghymru. Mae materion sy’n ymwneud â Mynediad ym Mhenfro’n dal i fod yn her i ni. Byddwn yn cynnal cystadleuthau dringo rhanbarthol i bobl ifanc (y BRYCS) yn y gogledd a’r de. Rydym yn gweithio gyda’r Cyngor Cefn Gwlad i weithredu a dehongli’r ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy ac mae aelodau’r BMC yn cynrychioli’ch buddiannau ar Fforymau Mynediad Lleol ledled y wlad. Ond, yn y pen draw, rhaid dweud nad yw BMC yn ddim heb gefnogaeth a chyfraniad gan bobl ar lawr gwlad – mae Pwyllgor BMC Cymru wedi bod yn straffaglu’n ddiweddar – mae’ch angen ar eich gwlad – efallai mai dyma’r adeg i ddod allan o’r cuddfannau a gwneud rhywbeth.
« Back
This article has been read
1223
times
TAGS
Click on the tags to explore more