Pan oeddwn yn ymweld â Boulder, Colorado ychydig flynyddoedd yn ôl fe’m hysbyswyd gan ddringwr hunan-bwysig ei fod wedi dringo ym mhob un o’r tair ardal dringo creigiau gorau yn y byd; Boulder Colorado, Yosemite a “rhyw le bach yng Nghymru na fyddet ti erioed wedi clywed amdano – Llanberis.”
Dychmygwch ei syndod pan ddywedais wrtho fy mod yn gallu gweld copa’r Wyddfa o ffenest fy nh! Unwaith eto roedd G yl Ffilmiau Mynydda Llanberis yn llwyddiant ysgubol. Roedd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn noddi sgyrsiau Cymraeg gan yr awduron Bethan Gwanas a Llion Iwan, y darlledwr Dewi Pws a choncwerwr Everest, Caradog Jones. Ond pam eu bod hwy, a’u cynulleidfaoedd, wedi eu halltudio i seler Gwesty Victoria? Pam na ellir cynnal y digwyddiadau hyn yn y prif leoliadau? A beth am ystyried defnyddio cyfieithu ar y pryd er mwyn galluogi’r di-Gymraeg i fwynhau’r sesiynau yma hefyd?
Y tu hwnt i’r seler, mae geifr gwyllt Eryri yn hawlio’r penawdau unwaith eto. Mae’n ymddangos bod y gaeafau tyner diwethaf a’r ffaith bod llai o ddefaid yn cael eu cadw wedi arwain at gynnydd mewn niferoedd. Fe gyfrais bron i 50 ar Rhinog Fach ym mis Ionawr. Mae’n sicr y bydd y newyddion o’r bwriad i ddidol a lladd geifr Y Gogarth yn Llandudno a Pharc Padarn yn cael ei dderbyn mewn dwy ffordd wahanol iawn. Ond rhag ofn bod y cig yn cael ei werthu (a dyna fyddai rheolaeth tir cynaliadwy) rwy’n argymell rysáit a gefais tra’n ymweld â Macedonia. Mae’r cig o ran ucha’r goes yn cael ei grilio gyda chaws gafr yn y canol a nionod ar y tu allan ac yn cael ei weini gyda madarch. Mae’r weriniaeth ddwyieithog annibynnol hon yn cynnig profiadau mynydda di-ben-draw, yn ogystal â rysetiau – mae’n bosib hedfan yn rhad i Thessaloniki yng Ngroeg.
Efallai y bydd mwy o siaradwyr Cymraeg ifanc yn heidio tua’r mynyddoedd. Mae S4C wedi darlledu cyfres o raglenni ar gyfer plant 9 – 14 oed o’r enw “Stamina”. Roedd un bennod ar weithgareddau mynydd, gan gynnwys BRYCS 2006. A sôn am hynny, tybed a yw’n bryd i Ogledd a De Cymru ymuno â’i gilydd ar gyfer y cystadlaethau yma?
« Back
This article has been read
1353
times
TAGS
Click on the tags to explore more