Mae casgliad diddorol o hen gylchgronau mynydda tua hanner can mlynedd oed yng nghaffi Bryn Glo ym Metws y Coed.
Mae dau beth wedi taro fy llygad wrth imi bori trwyddynt. Y cyntaf yw’r rhestr o siopau offer i gyflenwi anghenion y chwarelwyr - siopau gydag enwau anghyfarwydd a oedd wedi eu sefydlu ymhell cyn bod sôn am y siopau gyda’r enwau modern.
Yr ail yw fod y cylchgronau yn aml yn cynnwys gwersi Cymraeg a Gaeleg, gyda’r pwyslais ar enwau cyffredin a ddefnyddir mewn ardaloedd mynyddig. Mae’n bwysig cofio fod y mynyddoedd wedi bod yn fan gwaith i ffermwyr a oedd yn siarad Cymraeg neu Aeleg am ganrifoedd cyn i foneddigion oes Fictoria eu darganfod. Roedd gan y ffermwyr enw ar bob cae, nant, craig a chrib.
Mae’n hawdd anghofio fod y CMP yn gyngor mynydda i Gymru yn ogystal â Lloegr. Tra mai dim ond un iaith swyddogol sydd yn Lloegr, mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn cadarnhau fod dwy iaith swyddogol yng Nghymru – Cymraeg a Saesneg. Mae yna 600,000 o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru yn unig, ac felly mae’n hwyr glas i’r CMP gydnabod hyn. I wthio’r cwch i’r dŵr mae Pwyllgor Rhanbarth Cymru o’r CMP a Chlwb Mynydda Cymru (y clwb sydd â dau gant o aelodau gyda’r nod o hyrwyddo mynydda yng Nghymru drwy gyfrwng y Gymraeg) wedi cytuno i gynhyrchu cyfres o erthyglau.
Ond o gofio am y cyngor blaengar a roddwyd yn yr hen gylchgronau hanner can mlynedd yn ôl, hoffwn, am rŵan, ofyn i bawb ddefnyddio’r ffurf Gymraeg gywir am lefydd a’i hynganu’n gywir yn union fel y byddech yn ei wneud yn rhannau eraill y byd. Roedd gan y ‘Nameless Cwm’ enw, sef Blaen Cwm Cneifion, cyn iddo erioed gael ei weld gan fynyddwyr. Nid oes mynyddoedd o’r enw y Glyders, Carneds a Moelwyns yn bod, dim ond y Glyderau. Carneddau a’r Moelwynion. Dylid ynganu enwau canolfannau mynydda poblogaidd fel Llanberis, Betws y Coed a Beddgelert gyda’r un parch ag y mae’r Sais yn dweud Keswick, Ambleside neu Langdale. Ac wrth feddwl ymhellach, gyda llwyddiant Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i sicrhau cyllid i ail adeiladu’r adeiladau ar gopa’r Wyddfa, onid yw’n amser i ni anghofio’r enw Snowdon. Yr Wyddfa yw’r enw cywir – a pheidiwch byth â dweud ‘Mount Snowdon’!
« Back
This article has been read
1254
times
TAGS
Click on the tags to explore more