Rwyf yn ddyledus i Glwb Mynydda Clwyd. Mae eu haelodau yn ymwelwyr cyson â Chwarel Trefor ger Llangollen yn ystod yr haf.
Mae’r chwarel yn cynnig rhywbeth i bob dringwr gyda 40 dringfa yn amrywio o VD i E4. Mae Joss Thomas, un o aelodau’r clwb yn disgrifio ymweliad nodweddiadol ag atyniadau’r chwarel ‘Noson dda yn Chwarel Trefor. Buom yn dringo dringfa newydd sbon John Norman gyda rhaff wedi ei ddiogelu o’r brig, dringfa dda ar 4+. Yna fe aethom i’r wal ddeheuol, ac fe arweiniais ‘Gold Phlash’ sydd bellach gyda dau follt a pheg wedi eu hychwanegu ato. Gorffen noson dda gyda pheint yn nhafarn y Sun’
Yn y cyfamser, ar gyrion gogleddol Eryri mae trafodaeth ynglŷn â dyfodol hen chwarel arall. Mae dau gynllun hollol wahanol yn y ras i benderfynu dyfodol chwarel lechi Glyn Rhonwy. Mae un cynllun gan Gwmni Adwy Eryri Cyf. yn uchelgeisiol iawn. Maent yn argymell llethr sgïo, parc dwr, gwesty sba gyda 140 o wlâu, canolfan siopa a chanolfan beicio mynydd, gyda’r addewid o ‘gannoedd o swyddi’. Mae’r ail gynllun gan gwmni cydweithredol lleol Beiciau Mynydd Llanberis yn argymell canolfan beicio mynydd. Awgrymir y byddai hyn yn cyflogi 60 drwy’r flwyddyn a 50 yn ychwanegol yn ystod yr haf.
Crêd Cyngor Gwynedd, yr awdurdod cynllunio lleol, y byddai buddsoddiad o’r math iawn yng Nglyn Rhonwy yn arwain i ‘gyfleoedd economaidd newydd’. Eu bwriad yw gweld busnes newydd yn y chwarel ‘a fydd o werth i’r gymuned leol’ ac a fydd yn denu ‘llif cyson o dwristiaid, yn ogystal ag ambell i ddigwyddiad mwy yn achlysurol’. Gobeithiwn y bydd eu penderfyniad yn un doeth, gan y bydd yn effeithio’r iaith Gymraeg yn yr ardal am flynyddoedd i ddod.
Wrth son am Eryri, deuthum i adnabod Aled Taylor pan roedd yn warden gwirfoddol gyda Chydbwyllgor Parc Cenedlaethol Eryri. Wrth i ni gerdded adref ar ôl y bws olaf am 10, arferai adrodd, yn ei ffordd diymhongar am ei waith gwirfoddol, yn achub ar y mynydd - gwaith a ddyddiai yn ôl i 1966. Cefais bleser mawr, felly, o glywed ei fod wedi ennill Gwobr am Wasanaeth Nodedig gan Bwyllgor Achub Mynydd y Deyrnas Unedig. Rwyf hefyd yn falch o ddweud fod y deyrnged iddo am y tro cyntaf erioed yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg.
« Back
This article has been read
1326
times
TAGS
Click on the tags to explore more