‘Rydym i gyd yn tueddu i beidio rhoi ystyriaeth ddigonol i ddiogelwch ar y mynydd ac achub mynydd.
Ydych chi’n wirioneddol werthfawrogi gwaith y timau achub mynydd gwirfoddol, nid yn unig yng Nghymru, ond mewn mannau eraill hefyd? Yn anffodus, bu modd i’r cyfryngau yng Nghymru roi llawer o sylw i’r materion hyn yn ddiweddar. Serch hyn, diolch i gynrychiolwyr fel Aled Taylor a Gwyn Roberts cafwyd asesiad cytbwys o’r antur a’r risg a gymerwyd gan y rhai sy’n gwneud y galwadau. Eleni mae’n ymddangos na fu modd defnyddio hofrennydd mewn cyfran uwch o achosion nag arfer. Fodd bynnag, os bydd yr adolygiad o wasanaethau achub hofrennydd yr RAF yn arwain at breifateiddio, a fydd nifer uwch hyd yn oed o gleifion yn gorfod cael eu cario oddi ar y mynyddoedd?
Gan barhau â’r thema o achub bywydau, mae gan y cwrs meddygaeth mynydd cyntaf i gael ei gymeradwyo yn y Deyrnas Unedig gyswllt Cymreig. Cynigir y Diploma a Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Meddygaeth Mynydd gan Brifysgol Caerlyr. Mae’r cwrs, sydd wedi’i gydnabod gan yr Union Internationale des Associations des Alpinism (UIAA), yn cael ei drefnu ym Mhlas y Brenin, gyda hyfforddiant yn yr Alban ac yn yr Alpau hefyd. Tra bydd gan staff Ysbyty’r Brifysgol, Caerdydd, fewnbwn, gyda chanolfan hyfforddi’r Ysbyty yn y Coleg ym Mangor, pam na allai’r fenter a’r ddarpariaeth fod wedi dod o Gymru?
Wrth ddychwelyd o gerdded yn yr Engadine, roedd yn ymddangos yn rhyfedd nad oedd gwrthwynebiad i Fyddin y Swistir hyfforddi ar ffiniau’r Parc Cenedlaethol. Mae canolfan newydd y Parc Cenedlaethol yn Zernoz wedi codi statws pedwerydd iaith genedlaethol y Swistir – Romansh. Gyda chyfanswm llai o siaradwyr nag sydd o siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd, mae ei rôl ym mywyd tairieithog Canton Grisuns yn cynyddu ar ôl dirywiad cyson ers yr Ail Ryfel Byd.
A meddyliwch, oni allai trafnidiaeth gyhoeddus yn nyffrynnoedd mynyddoedd Cymru fod mor aml a dibynadwy â Bws y Swiss Post? Wedyn, byddai mentrau fel Goriad Gwyrdd Eryri yn llwyddo i annog cerddwyr a dringwyr i adael eu ceir gartref. A phetai car cebl wedi’i adeiladu o Ddolgellau i ben Cadair Idris – megis bryn i bobl Swistir – cymaint gwell fyddai mynediad i bawb!
« Back
This article has been read
1583
times
TAGS
Click on the tags to explore more