Ymlaen yn y gwanwyn, ac yn ôl yn yr hydref- dyna sut ’rwy’n cofio sut i newid y cloc ddwywaith y flwyddyn. Os nad ydym rhywsut yn newid cloc ein cyrff a chodi gyda gwawr y bore, nid ydym yn cael yr awr ychwanegol o oleuni gyda’r nos na’r cyfleoedd i fanteisio ar weithgareddau awyr agored unwaith mae gwaith y dydd wedi ei gwblhau.
Yn y calendr amaethyddol traddodiadol Cymreig, fel mewn sawl ardal fynyddig arall yn y byd, ’roedd dyfodiad y gwanwyn yn esgor, nid yn unig ar fywyd newydd, ond hefyd ar symudiadau. ‘Hafota’ yw’r term am weithwyr amaethyddol yn symud gyda’u hanifeiliaid o’r brif fferm i un arall yn uwch i fyny’r mynydd. Y bobl ifanc a wnâi’r siwrnai yma. Roedd nosweithiau braf yr haf yn rhoi digon o gyfleoedd iddynt fwynhau cwmni ei gilydd. Yn ddiau roedd y rhai mwyaf egnïol yn crwydro i’r porfeydd newydd. Mae’n rhaid mai nhw oedd y cyntaf i brofi pleser a her mynyddoedd Cymru.
Er clod, trefnodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gystadleuaeth i’w helpu i ddewis enw i’r adeilad newydd ar gopa’r Wyddfa a fydd yn agor yn gynnar yn haf 2008. Dewis unfrydol yr Awdurdod o restr o 12 enw oedd ‘Hafod Eryri.-mae’n enw Cymraeg sy’n hawdd i’w ynganu a’i farchnata, ac yn adlewyrchu amaethyddiaeth draddodiadol yr ardal. Ystyr ‘hafod’ yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru yw ‘tŷ’ neu ‘annedd haf yn yr ucheldir.’ Beth am ‘Eryri’? Hwn yw’r enw Cymraeg traddodiadol am yr ardal sydd, fwy neu lai, yn cyfateb i Barc Cenedlaethol Eryri.
Llongyfarchiadau i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Hafod Eryri fydd yr unig enw ar yr adeilad fydd yn disodli adeilad 1936 Syr Clough Williams Ellis. Pwy ddylai agor Hafod Eryri?
Yn ystod nosweithiau’r gwanwyn, un ffordd syml i mi i ddarganfod faint o’m cyd-fynyddwyr a cherddwyr sy’n siaradwyr Cymraeg yw eu cyfarch yn Gymraeg. Yn yr Alpau, mae pobl leol yn cyfarch eu cyd-fynyddwyr yn eu hiaith frodorol. Pam fod cymaint o siaradwyr Cymraeg yn gyndyn o ddefnyddio iaith yr ‘hafod’ ac yn defnyddio’r Saesneg?
« Back
This article has been read
1595
times
TAGS
Click on the tags to explore more