Giving A Voice To Climbers & Hill Walkers In Wales

Posted by Anna Paxton on 13/04/2023

(Fersiwn Gymraeg isod 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿) Issues like those experienced in Dartmoor, where a traditional acceptance of wild camping may be revoked, are pushing access to the outdoors up the political agenda. As the representative body for climbers, hillwalkers and mountaineers in England and Wales, BMC lobbies and campaigns for greater access. It’s work that might not always be visible, but the benefits will be greatly felt.

We caught up with Eben Muse, who has recently increased to full time Policy & Campaigns Officer for Wales, to find out more about his role and how the BMC gives a voice to climbers and hillwalkers in Wales.

Tell us a bit about your role? 

My work involves lobbying the Welsh government and working with other third sector organisations to make sure that climbers’ and hill walkers’ voices are heard in Wales, and that Welsh issues are properly considered and addressed by the BMC.

 

Which issues are specifically Welsh issues? 

Wales has our own Senedd, our own law-making body, so more or less anything that’s relevant to climbers, hill walkers and mountaineers will be devolved. Things like access, powers over tourism such as the tourist tax, funding for sports recreation and the protection of designated landscapes. There are unique opportunities in Wales for the BMC to work bilingually, and make Wales a place where we can achieve a model of responsible recreation and freedom that is accessible to everyone, and is non-extractive.

 

What will be keeping you busy over the coming months?

Right off the bat we've got agricultural reform which is making its way through the Senedd. It's going to have a huge influence over land use for the next few decades, so our goal is to make sure that access is considered when it comes to questions of public money for public good in agriculture. It's a really interesting time across the UK for access in general. Events such as the revoking of the right to wild camp at Dartmoor have shown us that access rights, when assumed and not specifically enshrined and protected in the law, can be taken away and shouldn’t be taken for granted. 

Through campaigns and lobbying our aim is to move recreational access up the legislative agenda in Wales, so politicians consider it as being complimentary to those important issues that appear in their manifestos, like access to nature, fitness, health, environmental stewardship and well-being. We want expanded and improved access, and the benefits we gain from them, to be properly acknowledged.

What successes have you seen in your role?

I was involved with forming the first cross parliamentary group in the Senedd for the outdoor recreation sector. It's been really successful in promoting the value of the sector, we've just had research go out on the economic contribution of the outdoor sector in Wales so I’m looking forward to those findings. A private members (The Outdoor Education (Wales)) bill has also  been proposed by the chair of the group to secure the statutory right to residential outdoor education for all children in Wales. It's currently very early in the process, but none of these things would be happening if the cross parliamentary group hadn't been established.

We’re also doing things a lot more bilingually these days, it’s been great to get the support of the BMC – and bilingual delivery also means that we can share all the work we do across the organisation more effectively with partners in Wales.

There’s a great team of policy people working in Wales to protect the environment and secure the right to access it, and we are making a slow, steady difference. Since the last election in Wales outdoor recreation has appeared on the agenda and is increasingly spoken about. We have a voice in any consultation that could affect BMC members, or climbers and hill walkers generally; be that around the regulation of single-use plastics, agriculture reform, a tourism tax, or the proposed statutory registration of holiday-let accommodation. It’s important to make sure that our voice is heard.

So you are a voice for climbers and hill walkers in Wales?

I always try to seek out the views of members in the area meetings and via the incredibly useful BMC committees, who are in many cases infinitely more knowledgeable than I am about specific issues. When BMC members are questioned, these are the issues they say are important to them. When it comes to policy, the laws of a country are not things you can necessarily affect in a day, progress can take weeks, months or even years, but ultimately I think we’re moving in a good direction. I’m a climber and a Welshman and at its core my job is to be an advocate for my peers and my community, it’s pretty sweet!

You can contact Eben at eben.muse@thebmc.co.uk

 

Rhoi Llais i Ddringwyr a Cherddwyr Mynyddoedd yng Nghymru

Holi ac Ateb gydag Eben Muse, Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd Cymru

Mae materion fel y rhai a brofwyd yn Dartmoor, lle ei bod yn bosibl y bydd yr arfer traddodiadol o dderbyn gwersylla gwyllt yn cael ei ddiddymu, yn gwthio mynediad i’r awyr agored i fyny’r agenda wleidyddol. Fel y corff sy’n cynrychioli dringwyr, cerddwyr mynyddoedd a mynyddwyr yng Nghymru a Lloegr, mae'r BMC yn lobïo ac yn ymgyrchu dros fynediad ehangach. Mae’n waith nad yw bob amser yn weladwy, efallai, ond bydd manteision y gwaith hwnnw’n cael eu teimlo’n fawr. Fe gawson ni sgwrs ag Eben Muse, sydd wedi cynyddu ei oriau gwaith fel Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd Cymru i amser llawn yn ddiweddar, i gael gwybod mwy am ei rôl a sut mae’r BMC yn rhoi llais i ddringwyr a cherddwyr mynyddoedd yng Nghymru.

Dywedwch ychydig wrthym am eich rôl 

Mae fy ngwaith yn cynnwys lobïo Llywodraeth Cymru a gweithio gyda sefydliadau eraill yn y trydydd sector i sicrhau bod lleisiau dringwyr a cherddwyr mynyddoedd yn cael eu clywed yng Nghymru, a bod materion sy'n berthnasol i Gymru yn cael ystyriaeth a sylw priodol gan y BMC.

 

Pa faterion sy’n benodol i Gymru? 

Mae gennym ein Senedd ein hunain yma yng Nghymru, sef ein corff deddfu ein hunain, felly bydd unrhyw beth, fwy neu lai, sy’n berthnasol i ddringwyr, cerddwyr mynyddoedd a mynyddwyr wedi’i ddatganoli. Pethau fel mynediad, pwerau dros dwristiaeth fel y dreth dwristiaeth, cyllid ar gyfer hamdden chwaraeon a gwarchod tirweddau dynodedig. Mae cyfleoedd unigryw yng Nghymru i’r BMC weithio’n ddwyieithog, a gwneud Cymru’n lle y gallwn gyflawni model o ryddid a hamdden cyfrifol sydd ar gael i bawb, ac nad yw’n echdynnol.

 

Beth fydd yn eich cadw chi’n brysur dros y misoedd nesaf? 

O’r cychwyn cyntaf, mae gennym ddiwygio amaethyddol yn mynd drwy’r Senedd. Mae’n mynd i gael dylanwad enfawr ar y defnydd o dir dros y degawdau nesaf, felly ein nod yw sicrhau bod mynediad yn cael ei ystyried yng nghyswllt materion sy’n ymwneud ag arian cyhoeddus er budd cyhoeddus ym maes amaethyddiaeth. Mae’n gyfnod diddorol iawn ledled y DU o ran mynediad yn gyffredinol. Mae digwyddiadau fel diddymu’r hawl i wersylla gwyllt yn Dartmoor wedi dangos i ni fod hawliau mynediad, os mai hawliau tybiedig ydynt neu os nad ydynt wedi’u cynnwys a’u diogelu’n benodol mewn cyfraith, yn gallu cael eu dileu ac na ddylid eu cymryd yn ganiataol.

Drwy ymgyrchoedd a lobïo, ein nod yw symud mynediad at hamdden i fyny’r agenda ddeddfwriaethol yng Nghymru, fel bod gwleidyddion yn ei ystyried yn fater sy’n ategu’r materion pwysig hynny sy’n ymddangos yn eu maniffestos, fel mynediad at natur, ffitrwydd, iechyd, stiwardiaeth amgylcheddol a lles. Rydym am weld mynediad ehangach a gwell, a’r manteision a gawn ohonynt, yn cael eu cydnabod yn briodol. 

Pa lwyddiannau ydych chi wedi’u gweld yn eich rôl?

Roeddwn â rhan yn y gwaith o ffurfio’r grŵp traws-seneddol cyntaf yn y Senedd ar gyfer y sector hamdden awyr agored. Mae wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran hyrwyddo gwerth y sector, rydym newydd gynnal ymchwil i gyfraniad economaidd y sector awyr agored yng Nghymru, felly rwy’n edrych ymlaen at ganfyddiadau'r ymchwil honno. Yn ogystal, mae Bil Aelod Preifat (bil Addysg Awyr Agored (Cymru)) wedi cael ei gynnig gan Gadeirydd y grŵp i sicrhau’r hawl statudol i addysg awyr agored breswyl ar gyfer pob plentyn yng Nghymru. Mae’n gynnar iawn yn y broses ar hyn o bryd, ond ni fyddai unrhyw rai o'r pethau hyn yn digwydd pe na bai’r grŵp traws-seneddol wedi cael ei sefydlu.

Rydym hefyd yn gwneud pethau’n llawer mwy dwyieithog y dyddiau hyn, mae wedi bod yn wych cael cefnogaeth y BMC – ac mae darparu’n ddwyieithog hefyd yn golygu ein bod yn gallu rhannu’r holl waith rydym yn ei wneud ar draws y sefydliad yn fwy effeithiol â phartneriaid yng Nghymru.

Mae tîm gwych o bobl polisi yn gweithio yng Nghymru i ddiogelu’r amgylchedd a sicrhau’r hawl i gael mynediad ato, ac rydym yn gwneud gwahaniaeth pwyllog a chyson. Ers yr etholiad diwethaf yng Nghymru, mae gweithgareddau hamdden awyr agored wedi ymddangos ar yr agenda ac mae’r mater yn cael mwy a mwy o sylw. Mae gennym lais mewn unrhyw ymgynghoriad a allai effeithio ar aelodau BMC, neu ddringwyr a cherddwyr mynyddoedd yn gyffredinol; boed hynny yng nghyswllt rheoleiddio plastigau untro, diwygio amaethyddiaeth, treth twristiaeth, neu’r bwriad i gyflwyno cofrestriad statudol ar gyfer llety gwyliau. Mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod ein llais yn cael ei glywed.

Felly, chi yw llais dringwyr a cherddwyr mynyddoedd yng Nghymru?

Rydw i bob amser yn ceisio barn aelodau yn y cyfarfodydd ardal a thrwy bwyllgorau’r BMC, sy’n hynod ddefnyddiol ac sydd, mewn sawl achos, yn llawer mwy gwybodus na mi am faterion penodol. Pan fydd aelodau’r BMC yn cael eu holi, dyma’r materion maen nhw’n ei ddweud sy’n bwysig iddyn nhw. O ran polisi, nid yw deddfau gwlad yn bethau y gallwch chi, o reidrwydd, ddylanwadu arnyn nhw mewn diwrnod, gall gymryd wythnosau, misoedd neu hyd yn oed flynyddoedd i weld cynnydd, ond yn y pen draw rydw i’n meddwl ein bod yn symud i’r cyfeiriad iawn. Rydw i’n ddringwr ac yn Gymro, ac, yn ei hanfod, fy ngwaith i yw bod yn eiriolwr dros fy nghymheiriaid a fy nghymuned, mae’n braf iawn!

 

Gallwch gysylltu ag Eben ar eben.muse@thebmc.co.uk 

 

We’re making it easy for you to connect with friendly climbing and walking clubs in your area. Fast friends and fun-filled weekends guaranteed. Take a look at our latest project: Find Your Adventure. 

Take the next step

📧 Sign up for our regular Find Your Adventure email

We’ll send you an email every Monday for six weeks, taking you from finding a club, to your first meetup and even weekend away.

Find Your Adventure

📌 Locate a friendly club near you and get started

Can't wait?

Check out the articles in this six-part series:

🥾 It's time to find your adventure

⛰️ Let's find you a club to join

🥾 Your first visit

⛰️ Learning and skills

🥾 Ready to head to the mountains

⛰️ Start your adventure


« Back

Post a comment Print this article

This article has been read 791 times

Post a Comment

Posting as Anonymous Community Standards
3000 characters remaining
Submit
Your comment has been posted below, click here to view it
Comments are currently on | Turn off comments
2
BMC MEMBERSHIP
Join 82,000 BMC members and support British climbing, walking and mountaineering. Membership only £16.97.
Read more »
BMC SHOP
Great range of guidebooks, DVDs, books, calendars and maps.
All with discounts for members.
Read more »
TRAVEL INSURANCE
Get covered with BMC Insurance. Our five policies take you from the beach to Everest.
Read more »